Cofnodion y cyfarfod blaenorol

14 Gorffennaf 2015

Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

YN BRESENNOL:

 

Bethan Jenkins AC (Cadeirydd)

BJ

AC dros De-orllewin Cymru (Plaid Cymru)

 

Katie Dalton (ysgrifennydd)

KD

Gofal

Jessica Chappell

JC

Gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau

Dr Gillian Davies

GD

Allgymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Haen 4, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

James Downs

JD

Defnyddiwr gwasanaeth, gwirfoddolwr ac ymgyrchydd

Charlotte Higgins

CH

Prosiect SHED Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ewan Hilton

EH

Gofal

Menna Jones

MJ

Arweinydd Clinigol Haen 3 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro/ Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Manon Lewis

ML

Defnyddiwr gwasanaethau

Gerrard McCullagh

GM

Haen 3 Bwrdd iechyd Prifysgol Aneurin Bevan / De Powys

Helen Missen

HM

Gofalwr

Kim Palmer

KP

Allgymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Haen 4, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Caroline Pember

CP

Haen 3 Bwrdd iechyd Prifysgol Aneurin Bevan / De Powys

C. A. Phillips

CAP

Disgybl ysgol uwchradd/gofalwr

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

CPGED/NAW4/20 - Croeso ac ymddiheuriadau

Camau gweithredu

Croesawodd Bethan Jenkins AC bawb i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta.

 

CAFWYD:

Ymddiheuriadau gan aelodau absennol:

  • Julie Morgan AC
  • Martin Ball
  • Jane Burgoyne
  • Robin Glaze
  • Claire Greaves
  • Janet Ribeiro
  • Don Ribeiro
  • Carolyn Sansom
  • Dr Samantha Sharpe
  • Jacinta Tan
  • Caroline Winstone

 

 

CPGED/NAW4/21 - Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Camau gweithredu

CYTUNWYD: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf.

 

CPGED/NAW4/22 - Materion yn codi

Camau gweithredu

TRAFODWYD:

 

CPGED/NAW4/02 - Y Fframwaith Anhwylderau Bwyta

CAM I'W GYMRYD: BJ i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd i ofyn am ddiffiniad o 'cyn bo hir'.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd at BJ ar ddiwedd mis Mawrth i gadarnhau y byddai'r Fframwaith Anhwylderau Bwyta ar gyfer Cymru yn cael ei hadnewyddu ac y byddai'n hapus i'r rhai sy'n ymgymryd â'r gwaith adnewyddu i gwrdd ag aelodau o'r grŵp trawsbleidiol. (Gweler eitem 5 ar yr agenda)

 

CPGED/NAW4/06 - Unrhyw fater arall

CAM I'W GYMRYD: BJ i barhau i geisio trefnu cyfarfod gyda Tina Gambling. KD i ymchwilio i ofynion cyfredol y cwricwlwm a phrosesau adolygu'r cwricwlwm.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Nid yw BJ wedi llwyddo i gysylltu â TG. Mae KD wedi paratoi dau bapur briffio ar y Fframwaith ABCh presennol ar gyfer Cymru ac Adolygiad Donaldson o'r cwricwlwm yng Nghymru (gweler eitem 6)

 

CPGED/NAW4/16 - Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol

CAM I'W GYMRYD: KD / BJ i gyflwyno'r dogfennau i'r Swyddfa Gyflwyno

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae KD wedi cyflwyno'r dogfennau i'r Swyddfa Gyflwyno

 

CPGED/NAW4/17 - Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed

CAM I'W GYMRYD: BJ/KD i wahodd SR i'r cyfarfod nesaf

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Roedd BJ/KD wedi gwahodd SR - ond roedd SR wedi awgrymu y dylid cysylltu â Carol Shilabeer, sef prif weithredwr arweiniol y bwrdd iechyd ar gyfer y gwaith o wella Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed. Yn anffodus, nid oedd CS ar gael i fynychu cyfarfod y grŵp trawsbleidiol ond roedd yn  ymddangos yn awyddus i gymryd rhan.

Cytunodd y grŵp y dylai BJ/KD geisio trefnu cyfarfod dros yr haf er mwyn galluogi aelodau i rannu eu barn a chyfrannu at y gwaith gwella.

 

CPGED/NAW4/18  - Materion a blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru

CAM I'W GYMRYD: KD i ddiwygio'r ddogfen

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF: Mae KD wedi diwygio'r ddogfen i gynnwys pwynt ychwanegol am weithio ar draws adrannau o dan adran ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ac adran ychwanegol am gefnogi pobl sydd â phrofiad parhaus o anhwylderau bwyta. (Gweler eitem 4 ar yr agenda)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

CPGED/NAW4/23  - Materion a blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru.

Camau gweithredu

Yn dilyn y diweddariad o dan Materion yn codi, atgoffodd KD  yr aelodau fod y ddogfen materion allweddol wedi cael ei datblygu yn sgil trafodaethau yn y ddau gyfarfod grŵp trawsbleidiol diwethaf, lle roedd yr aelodau wedi cyfrannu eu barn am y materion allweddol sy'n wynebu defnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd, gofalwyr a gwasanaethau.

Cytunodd yr aelodau mai un o gryfderau'r ddogfen oedd ei bod yn cynrychioli safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, aelodau o deuluoedd, gweithwyr iechyd proffesiynol, academyddion a chynrychiolwyr y trydydd sector.

 

CYTUNWYD

·      Dylai'r ddogfen materion allweddol gael ei rannu yn gyhoeddus a'i hanfon at y bobl sy'n gyfrifol am:

       diweddaru'r fframwaith anhwylderau bwyta

       y gwaith i wella Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed

·      Dylai'r ddogfen gael ei chyhoeddi ar-lein a'i hanfon at y cyfryngau gydag astudiaethau achos, os oes modd.

 

 

 

KD i gwblhau'r ddogfen a'i hanfon at aelodau'r grŵp trawsbleidiol.

KD i gyhoeddi'r ddogfen ar-lein a'i hanfon at lunwyr polisïau perthnasol.

 KD  i ysgrifennu datganiad i'r wasg ac anfon y ddogfen at y cyfryngau.

CPGED/NAW4/24 - Y Fframwaith Anhwylderau Bwyta i Gymru

Camau gweithredu

Rhoddodd BJ yr wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am gynnwys y llythyr gan y Gweinidog Iechyd. Amlygodd BJ y ffaith bod y llythyr wedi nodi y byddai'r gwaith uwchraddio yn cael ei gwblhau erbyn dechrau'r haf.

Dywedodd aelodau eraill eu bod yn credu bod cyfathrebiadau mwy diweddar yn nodi y byddai'n cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi.

·       Mynegwyd pryderon ynghylch y diffyg gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o'r gwaith adnewyddu ymhlith defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol.

·       Mynegwyd pryderon ynghylch yr amserlen a diffyg cyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth hyd yma. Cytunwyd y byddai'n well gan y grŵp pe bai’r gwaith adnewyddu'r yn digwydd dros gyfnod o amser hirach i sicrhau y gallai ICC yn derbyn cymaint o dystiolaeth a chymaint o safbwyntiau ag y bo modd ac yna ystyried yn ofalus cyn cyhoeddi fframwaith diwygiedig.

·       Cytunodd yr Aelodau ei bod yn bwysig ar gyfer y Fframwaith newydd wedd i fod yn gynhwysol o bob oedran.

·       Pwysleisiodd yr aelodau hefyd yr angen am unrhyw ymgynghoriad i fod yn gynhwysol o Gymru gyfan, gan y gall gwahanol ardaloedd daearyddol wynebu heriau gwahanol ac i godi gwahanol faterion.

·       Cytunodd yr Aelodau hefyd y dylai unrhyw ymgynghori hefyd yn cynnwys sectorau perthnasol y tu hwnt i iechyd, fel addysg.

 

CYTUNWYD

·       Cytunodd BJ i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd i godi'r pryderon hyn am amserlenni a diffyg ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr/teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol hyd yn hyn.

·       Cytunwyd hefyd y byddai BJ yn ysgrifennu at y bobl sy'n ymgymryd â'r gwaith adnewyddu er mwyn rhannu dogfen materion allweddol â'r grŵp trawsbleidiol a chynnig i hwyluso cyfarfod rhyngddynt hwy ac aelodau'r grŵp trawsbleidiol.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

ysgrifennu at y Gweinidog:

 

BJ  i ysgrifennu at y bobl sy'n ymgymryd â’r gwaith adnewyddu

CPGED/NAW4/25 - Anhwylderau bwyta ac iechyd meddwl mewn ysgolion

Camau gweithredu

Cyflwynodd KD y ddau bapur briffio am y gofynion cyfredol ar gyfer iechyd a lles o dan y fframwaith ABCh ar gyfer Cymru ac argymhellion iechyd a lles Adolygiad Donaldson o'r cwricwlwm ysgol yng Nghymru.

Pwysleisiwyd y Cynlluniau Ysgolion Iach hefyd fel arf defnyddiol arall ar gyfer hybu iechyd a lles.

 

CYTUNWYD

·      BJ  i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i dynnu sylw at bwysigrwydd gweithredu argymhellion iechyd a lles yr Adolygiad Donaldson.

·      BJ  i ysgrifennu at awdurdodau lleol i ofyn sut y maent yn cyflwyno'r gofynion iechyd a lles cyfredol o fewn y fframwaith ABCh ac am eu hymgysylltiad â'r Cynlluniau Ysgolion Iach, gan gyfeirio'n benodol at iechyd meddwl ac anhwylderau bwyta.

 

 

 

 

 

 

 

BJ  i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg

BJ  i ysgrifennu at awdurdodau lleol

CPGMH/NAW4/12 - Law yn Llaw at Iechyd Meddwl

Camau gweithredu

Rhoddodd KD yr wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp gynllun cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Esboniodd KD bod Cynghrair Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl (sefydliadau iechyd meddwl cenedlaethol y trydydd sector yng Nghymru) wedi cyflwyno dogfen i Lywodraeth Cymru a oedd yn mynegi eu barn am y materion yr oedd angen eu cynnwys yn yr ail gynllun cyflenwi. Mae'r ddogfen yn pwysleisio'r angen am weithredu a chanlyniadau ar draws y llywodraeth. Roedd Gofal wedi sicrhau bod y ddogfen yn cyfeirio at anhwylderau bwyta mewn perthynas ag adnabod yn gynnar, addysg a phrofiadau/canlyniadau cleifion.

 

CYTUNWYD

·      KD  i gylchredeg y ddogfen CIMC i aelodau'r grŵp trawsbleidiol er gwybodaeth.

·      KD i anfon dogfen faterion allweddol y grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta i’r swyddog Llywodraeth Cymru sy’n arwain datblygiad cynllun cyflenwi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

KD  i gylchredeg dogfen CIMC

KD  i anfon y ddogfen materion allweddol at Lywodraeth Cymru

CPGED/NAW4/27 - Maniffestos etholiad y Cynulliad

Camau gweithredu

Trafododd y grŵp y gwaith o ddatblygu maniffestos y pleidiau gwleidyddol a chytunwyd y byddai'n ddefnyddiol cyfrannu at y gwaith hwn a sicrhau bod pob plaid yn ymwybodol o anhwylderau bwyta.

 

CYTUNWYD

·      Anfon dogfen 'materion allweddol' i bob un o'r prif bleidiau gwleidyddol i'w hystyried wrth ddatblygu eu maniffestos.

·      Yn y cyfarfod nesaf, dylai'r grŵp trawsbleidiol ystyried a ddylid cytuno ar nifer o addewidion allweddol y byddem yn gofyn i ymgeiswyr y Cynulliad i ymrwymo iddynt cyn yr etholiad.

BJ/KD  i anfon y ddogfen materion allweddol at y pleidiau gwleidyddol

KD i ychwanegu’r datblygiad o addewidion allweddol i agenda y cyfarfod nesaf

CPGED/NAW4/09 - Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Camau gweithredu

Ysgrifennodd Dr Robin Glaze at BJ cyn y cyfarfod i amlygu cynnig ar gyfer tîm (rhith) Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed sy’n arbenigo mewn anhwylderau bwyta, a fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o gais BIPBC ehangach ar gyfer cyllid Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed sydd newydd gael ei ryddhau. Disgrifiodd RG y cynnig fel un arloesol iawn, a dywedodd ei fod yn cynnwys gwasanaethau pediatreg am gost isel iawn - ac mae wedi’i gefnogi gan Fwrdd Gwasanaethau Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Bwrdd Rhwydwaith Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ar Anhwylderau Bwyta. Mynegodd RG bryderon bod gogledd Cymru yn parhau i fod o dan anfantais o ran gwasanaethau anhwylderau bwyta arbenigol ar gyfer cleifion Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed - ond y gallai cynnig o'r fath fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn.

 

Mynegodd aelodau eraill o'r grŵp trawsbleidiol eu cefnogaeth i'r cynnig hwn a thynnwyd sylw at bwysigrwydd cynnwys gwasanaethau anhwylderau bwyta o fewn yr ystod o brosiectau a gefnogir gan gyllid Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.

 

CYTUNWYD

BJ  i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd, i dynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys gwasanaethau anhwylderau bwyta o fewn yr ystod o brosiectau a gefnogir gan gyllid Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a mynegi ei chefnogaeth i'r cynnig hwn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

BJ i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd